Jeremiah 10

Mae addoli eilun-dduwiau wedi dod â dinistr

1Bobl Israel, gwrandwch beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud wrthoch chi:

“Peidiwch gwneud yr un fath â'r gwledydd paganaidd.
Peidiwch cymryd sylw o ‛arwyddion‛ y sêr a'r planedau,
a gadael i bethau felly eich dychryn chi,
fel maen nhw'n dychryn y gwledydd hynny.
3Dydy arferion paganaidd felly yn dda i ddim!
Mae coeden yn cael ei thorri i lawr yn y goedwig,
ac mae cerfiwr yn gwneud eilun ohoni gyda chŷn.
4Wedyn mae'n ei addurno gydag arian ac aur,
ac yn defnyddio morthwyl a hoelion i'w ddal yn ei le,
rhag iddo syrthio!
5Mae'r eilunod yma fel bwganod brain mewn gardd lysiau.
Allan nhw ddim siarad;
allan nhw ddim cerdded,
felly mae'n rhaid eu cario nhw i bobman.
Peidiwch bod a'u hofn nhw –
allan nhw wneud dim niwed i chi,
na gwneud dim i'ch helpu chi chwaith!”
Jeremeia:
6“O Arglwydd, does dim un ohonyn nhw'n debyg i ti.
Ti ydy'r Duw mawr,
sy'n enwog am dy fod mor bwerus!
7Ti ydy Brenin y cenhedloedd,
felly dylai pawb dy addoli di –
dyna wyt ti'n ei haeddu!
Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyd
a'r teyrnasoedd ddim byd tebyg i ti.
8Pobl wyllt a dwl ydyn nhw,
yn meddwl y gall eilun pren eu dysgu nhw!
10:8 Ystyr yr Hebraeg yn ansicr

9Maen nhw'n dod ag arian wedi ei guro o Tarshish,
ac aur pur o Wffas, i orchuddio'r delwau.
Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy'r rheiny;
a'u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus!
10Yr Arglwydd ydy'r unig Dduw go iawn –
y Duw byw, sy'n frenin am byth!
Pan mae e'n ddig mae'r ddaear yn crynu.
Mae'r cenhedloedd yn cuddio oddi wrth ei ddicter.”

11(Dylech ddweud wrth y cenhedloedd: “Wnaeth y ‛duwiau‛ yma ddim creu y nefoedd a'r ddaear. Byddan nhw i gyd yn diflannu – fydd dim sôn amdanyn nhw yn unman!”)
10:11 Yr adnod yma ydy'r unig frawddeg Aramaeg yn llyfr Jeremeia. Mae'n bosib mai nodyn ar ymyl y ddalen oedd hi'n wreiddiol.

Emyn o fawl i Dduw

(Jeremeia 51:15-19)
12Yr Arglwydd ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear.
Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb,
a lledu'r awyr trwy ei ddeall.
13Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu.
Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel.
Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw.
Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.
14Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd!
Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'i gwnaeth nhw.
Duwiau ffals ydy'r delwau;
does dim bywyd ynddyn nhw.
15Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw!
Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio.
16Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw.
Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth,
ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo.
Yr Arglwydd holl-bwerus ydy ei enw!

Bydd y gelyn yn caethgludo

17Mae'r gelyn o'ch cwmpas yn gwarchae
10:17 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu'r ddinas a'i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.
,
felly heliwch eich pac yn barod i fynd!
18Ie, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:
Dw i'n mynd i daflu'r bobl allan o'r wlad yma, nawr!
Maen nhw'n mynd i fod mewn helbul go iawn,
a byddan nhw'n teimlo'r peth i'r byw.
19Meddai Jerwsalem, “Mae ar ben arna i!
Dw i wedi fy anafu'n ddifrifol.
Roeddwn i'n arfer meddwl, ‘Salwch ydy e
a bydda i'n dod drosto.’
20Mae fy mhabell wedi ei dryllio,
a'r rhaffau i gyd wedi eu torri.
Mae fy mhlant wedi mynd,
a fyddan nhw ddim yn dod yn ôl.
Does neb ar ôl i godi'r babell eto,
nac i hongian y llenni tu mewn iddi.
21Mae'r arweinwyr
10:21 Hebraeg, “bugeiliaid”
wedi bod mor ddwl!
Dŷn nhw ddim wedi gofyn i'r Arglwydd am arweiniad.
Maen nhw wedi methu'n llwyr,
ac mae eu praidd nhw wedi eu gyrru ar chwâl.
22Gwrandwch! Mae'r si ar led! Mae'n dod!
Sŵn twrw'r fyddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.
Mae'n dod i droi trefi Jwda yn rwbel,
ac yn lle i siacaliaid fyw.
23Arglwydd, dw i'n gwybod na all pobl reoli eu bywydau.
Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy'n mynd i ddigwydd.
24Felly, Arglwydd, cywira ni, ond paid bod yn rhy galed.
Paid gwylltio, neu bydd dim ohonon ni ar ôl.
25Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod,
a'r llwythau hynny sydd ddim yn dy addoli.
Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio pobl Jacob –
wedi eu dinistrio nhw'n llwyr a gadael y wlad yn adfeilion.”
Copyright information for CYM